i Ifor vn arall
1 yfydd sarchogion ofeg
2 Ifor tehyrnaidd ior teg
3 myned fal i damynwyf
4 anodd iawn i wynedd wyf
5 nid myned ddwyged ddigel
6 o ddyn yr eilwaith a ddel
7 devfis yn nwylan dyfi
8 ni allwn fod hebod ti
9 y galon bedroglgron bor
10 ni chyfyd yn iach Ifor
11 na llygad graddlad gryddwlych
12 na llaw na bawd llei ni bych
13 nid yfydd grym ym yma
14 nid oedd gall na dyall da
15 ir neb a garai or naw
16 diodydd gwin dy adaw
17 fy naf wyd ag arddaf gwr
18 yn iach diledach loywdwr
19 rhwyddynt gyhafal rhydderch
20 rhagod synwyr wybod serch
21 rhyfel llid rhw rhyw ofal
llawn
22 a heddwch Ifor hoywddawn
23 maith ith ragoriaith gerir
24 mawr ior teg y mor ar tir
25 naf coydfedw nwyfav cydfod
26 nef a phressen cledren clod
27 [254] cawn o ddawn a eiddynwyf
28 cywaythog ag enwog wyf
29 o eiriav teg o ariant
30 ag avr coeth fal i gwyr cant
31 o drwssiad nid bwriad bai
32 o arfav ffrengig erfai
33 o yfydd gost o fedd a gwin
34 o dlysav ail daliessin
35 tyrnav grym teyrn o gred
36 tydi Ifor tad yfed
37 enw tefyrn ynad hoywfoes
38 wyneb y rhwydddeb ai rhoes
dd ap gwilym ai kant